Siloh Welsh Baptist Chapel - Caergeiliog (1905)




Additional Information

Nis gallwn fod yn dawel yn y fan hon heb gael cyhoeddi ein llawenydd crefyddol i'r enwad yn Nghymru. Mae yr adfywiad crefyddol wedi cael ei deimlo yma yn ei wres ar ol rhai misoedd o weddio ar i Dduw ymweled a ni yn Hermon. Ac i'r Arglwydd y byddo y diolch a'r gogoniant am hyn. Gallwn ddweyd ein bodyn cynnal cyfarfodydd gweddio bob nos er's misoedd lawer, ie, or's rhai wythnosau cyn diwedd y flwyddyn ddiweddaf. Yr oeddem fel brawdoliaeth yn Hermon yn gweddio yn ddyfal bob nos, gan gynted ag y clywsom fod y tan wedi tori allan yn Neheudir Cymru. Ni oedd y cyntaf i ddechreu y cyfarfodydd gweddio yn nglyn a'r Diwygiad presenol yn yr ardal llon. Cawsom ein gwawdio gan yr enwadau ereill, ond buan y cawsant liwythau eu hargyhoeddi yr un Yspryd i ddilyn yr un esiampl. Cawd cyrddau gweddio bendigedig ac eneiniedig drwy y misoedd diweddaf, a chawsom y fraint a'r anrhydedd o weled amryw y buom gynt yn gofidio o'u herwydd yn troi i mewn ac yn llefain am drugaredd yn nghysgod gwaed ein hanwyl Iesu. Mae ein gweinidog anwyl wedi ei danio a'r Yspryd, ac yn fyw yn symudiadau yr adfywiad yn mhob cylch o hono, a'i ddymuniadau eneidiol yn angherddol am gael teimlo mwy o wres yr Yspryd yn cynhyrfu y frawdoliaeth a'r ardal oll allan o bob difaterwch ac oerfelgarwch Anfynych y clywir gair o'i enau, na fydd yn llawn o ymawyddiad a sêl i ddelfroad crefyddol a llwyddiant teyrnas Crist yn mhob cylch, gellir hefyd dweyd fod y cyrddau gweddio hyn wedi cael effaith rhyfeddol ar ein pobl ieuainc, rhai oedd gynt yn destynau gofid i amryw o honom, o herwydd eu bod mor ddiwerth yn yr eglwys, a'u serch mor gryf ar egwyddorion yr oes. Ond erbyn heddyw, nid oes angen erfyn arnynt i fod yn flaenllaw yn ngwinllan Daw. Maent am y cyntaf yn pIygu wrth orsedd gras, ac yn ymhyfrydu mewn moli ei enw. Bedyddiwyd 7 o'r eglwys hon ar broffes o ffydd yn Mab Duw gerbron torf o edrychwyr yn Siloh, Caergeiliog, yn nghyd a phedwar o'r chwaer eglwys gan ein parchus weinidog T. G. Hughes. Daeth dau o honynt yn mlaen ar y diwedd, a phroffesodd y ddau hyn eu bod yn penderfynu cefnu ar bechod, a dilyn Oen Duw. Derbyniwyd dau o dir gwrthgiliad, a 12 etto o flaen yr eglwys yn disgwyl am y fraint o gael gwneud darlun mewn ufydd-dod o farwolaeth, claddedigaeth, ac adgyfodiad ein Harglwydd lesu Grist. Deallwn fod rhai etto yn y chwaer eglwys Caergeiliog hefyd.

10th March 1905, Seren Cymru

 


Related Wells