I feel that everyone should know about what is happening here these days. One cannot say that the 'spiritual shower' has fallen here, but it can be said without hesitation that there has been a heavy 'spiritual dew’. The churches have been busy for weeks, ‘faithfully praying to God.' There have been some very lovely united prayer meetings. The Holy Spirit is manifestly taking the lead. In addition, the Revs. T. Jones, Rhostyllen, W. B. Jones, Penycae, and Edward Davies, Llangollen, have been here and their preaching was very powerful and effective. The visitation of God's Spirit to the area has been a means to awaken some sleepers in Zion, those who have been silent in church are speaking out clearly, and Zion has become a joyful mother of children. There are 28 converts here, some of whom have been 'listeners' all their lives, others are promising young people. Eight people have joined us as a church, to our great joy. Our church members number about 60, and there were over 50 people at the society meeting last Wednesday evening. Not only are the people streaming to Zion, but Jesus is very clearly there. The church continues to pray, young and old, and we expect great things in the future.
'Y Gwyliedydd' (Rhyl) 7th January 1905.
http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3191854/ART32
Teimlaf y dylai pawb wybod am yr hyn sydd yn digwydd yn lle hwn y dyddiau hyn. Nis gellir dweud fod y 'gawod ysprydol' wedi disgyn yma, ond gellir dweud yn ddibetrus fod y 'gwlith ysprydol' wedi disgyn yn drwm iawn. Mae yr eglwysi wedi bod wrthi am wythnosau yn 'ffyddlon weddio Duw.' Cafwyd rhai cyfarfodydd gweddio undebol hyfryd iawn. Yr Yspryd Glan yn arweinydd amlwg. Hefyd bu y Parchn. T. Jones, Rhostyllen, W. B. Jones, Penycae, a Edward Davies, Llangollen, yma yn pregethu yn rymus ac effeithiol iawn. Mae ymweliad Yspryd Duw a'r ardal wedi bod yn foddion i ddeffro ambell i gysgadur yn Seion, y mud yn yr eglwys yn llefaru yn hyglyw, a Seion wedi dod yn llawen fam plant. Mae yma 28 wedi eu dychwelyd, rai ohonynt yn wrandawyr ar hyd eu hoes, eraill yn bobl ieuainc gobeithiol. Mae yna wyth wedi ymuno a ni fel eglwys, a mawr yw y llawenydd. Rhifa ein heglwys yma tua 60, ac yr oedd yna dros 50 yn y seiat nos Fercher diweddaf. Nid yn unig mae y bobl yn dylifo i Seion, ond mae yr Iesu yno hefyd yn amlwg iawn.Y mae yr eglwys yn parhau i weddio, yn ieuanc a hen, a disgwyliwn bethau mawr yn y dyfodol.
'Y Gwyliedydd' (Rhyl) 7th January 1905.
http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3191854/ART32