Mae yn y gymydogaeth yma bob prawf fod y diwygiad wedi cael gryn effaith ar wahanol gapeli a'r cynulleidfaoedd. Mae y cyfarfodydd wedi cael eu cynhal bob nos er's dros ddau fis, ac maent wedi bod yn foddion i ddyfod a'r gwahanol enwadau at eu gilydd, ac mae llawer o'r newydd wedi ymuno a'r gwahanol eglwysi. Bu amryw o'r Diwygwyr y Rhos i lawr yma, yn cynal cyfarfod yn capel Annibynwyr Lavister, yr hwn oedd yn orlawn. Un peth hynod gyda'r Diwygiad yw gweled y bechgyn a'r merched ieuainc yn cymeryd y fath ddyddordeb rhai na fyddai byth yn myned i le o addoliad. Rossett a Burton.
Goleuad - 7th April 1905.
http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/en/page/view/3224641/ART34