Sardis Welsh Baptist Chapel - Dinorwig (1905)




It will no doubt delight the readers of the ‘SEREN’ to hear that the Revival has reached old Sardis, the highest chapel in Wales, the church that had the honour of raising the giants Roberts, Llwynhendy and the 'Hen Gloddiwr', John Jones, Llanberis; who played such a prominent part in the Revival of 1859. A Sabbath that will be long remembered here was December 11th, 1904, when the presence of God's spirit was manifestly felt. Our respected minister was coming here, his bosom full of the Divine fire, and his ardour was soon felt spreading through the place, and we had a grand meeting in every sense, and since then this has been a lovely place; the young brothers vying to tell their concerns and giving thanks for the experience of being under the new Master, and such is the influence that we cannot describe anyone thinking of going home from chapel for hours, and more than everything is that the church is able to add to its number the old giants bending and the backsliders returning; the prayer meeting has become the church's main meeting, and the congregations are large and enthusiastic, especially in the young people's meeting; the singing is heavenly and inspired. "Sun of Righteousness, Fill the earth with your grace."

A SHORT WORD ABOUT THE GREAT QUARRY AT LLANBERIS.The Quarrymen have awoken at last. The sound of prayers and singing rises from the old quarry cabins like a melody in the air; the oaths and the swearing and the curses have been driven away. What is heard in every part of the Quarry is talk of the Revival. The dinner hour is an hour of prayer almost throughout the works, where there are over 3,000 workers. The young people are to the fore in the Quarry to such an extent that the old people are amazed. The change over the last three weeks is astonishing.

13th January, taken from 'Seren Cymru' Welsh language newspaper.

Additional Information

Diau y bydd yn llawenydd gan ddarllenwyr y SEREN glywed fod y Diwygiad wedi cyrhaedd yr hen Sardis, yr addoldy uwchaf yn Nghymru, yr eglwys gafodd y fraint o godi y cewri Roberts, Llwynhendy a'r Hen Gloddiwr, sef John Jones, LIanberis; oedd a rhan mor amlwg yn Niwygiad 1859. Sabbath a hir gofir yma oedd Rhagfyr 11eg, 1904, pryd y teimlwyd presenoldeb yspryd Duw yn amlwg. Yr oedd ein parchus weinidog yn dyfod yma a llond ei fynwes o'r tan Dwyfol, a buan y teimlwyd ei wres yn gwasgaru trwy'r He, a chafwyd cwrdd mawr yn mhob ystyr, ac oddi ar hyny mai yma le braf; y brodyr ieuainc am y cyntaf yn dweyd eu helyntion ac yn diolch am y profiad d o fod dan y Meistr newydd, a'r fath ydyw y dylanwad nas gallwn ei ddarlunio neb yn meddwi am fyn'd adref or capel am oriau, a mwy na'r cwbl yr eglwys yn cael ychwanegu at ei nifer yr hen gewri yn plygu a'r gwrthgilwyr yn dod yn ol; y cyfarfod gweddi wedi myn'd yn brif cyfarfod yr eglwys, a'r cynnulleidfaoedd yn fawrion a brwdfrydig, yn arbenig y cwrdd y bobl ieuainc; y canu yn nefolaidd ac eneiniedig. "Haul Cyfiawnder, Llanw'r ddaear lawr a'th ras."

GAIR -BACH AM CHWAREL FAWR LLANBERIS. Mae'r Chwarelwyr wedi eu deffroi o'r diwedd. Mae swn gweddiau a chan yn dyrchafu o hen gabanau y chwarel fel peroriaeth yn yr awyr y llwon a'r tyngu a'r rhegfeydd wedi eu hymlid ymaith. Son am y Diwygiad glywir yn mhob rhan o'r Chwarel. Yr awr giniaw yn awr weddi bron trwy y gwaith, lie mae dros 3,000 yn gweithio. Y bobi ieuainc y piau hi yn y Chwarel yr un fath nes synu'r hen bobl. Mae'r cyfnewidiad yn rhyfeddol y tair wythnos ddiweddaf.

 

13th January 1905

 


Related Wells